TEITHIAU GRWP I ERYRI

Yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyda Pharc Cenedlaethol, traethau wedi’u gwobrwyo a Safle Treftadaeth y Byd, mae Eryri’n enwog trwy’r byd fel hafan i ymwelwyr. Isod, ceir ambell deithlen a gwybodaeth gyffredinol fydd yn ddefnyddiol i’ch grwp. Cliciwch yma am ein taflen ddiweddaraf i grwpiau (yn Saesneg yn unig) ar ffurf pdf.

TEITHLENNI

Teithiau Trên Bach Bendigedig
Cychwynnwch eich taith yn ne Gwynedd, yn nhref glan môr Tywyn, a saif uwchlaw Bae Ceredigion. Yma gallwch ddal trên Rheilffordd Tal-y-llyn a agorwyd yn wreiddiol ym 1865. Hon yw’r rheilffordd ager gyntaf y byd i gael statws cadwraeth.. Fe’ch cludir trwy dirwedd wledig drawiadol, heibio rhaeadrau a choedlannau i Nant Gwernol. Dyma fan cychwyn teithiau cerdded hyfryd yn yr ardal. O’r fan hon, ewch draw i Reilffordd Ucheldir Cymru (Porthmadog). Yma ceir hen goetsis sydd hefyd dros ganrif oed, a bydd cyfle i chi gael eich tywys o gwmpas y cytiau injan yn rhad ac am ddim. Dri chwarter awr i ffwrdd (yn y car), wrth droed yr Wyddfa fawr, y mae Rheilffordd Llyn Llanberis gyda golygfeydd heb eu hail o’r mynyddoedd. Fel nifer o reilffyrdd cul Cymru, fe’i gosodwyd yn wreiddiol er mwyn cludo llechi ond yn awr ymwelwyr yw’r cludiant ar y daith hyd glan y llyn. Agorwyd Rheilffordd Fynydd Llanberis ym 1896 yn un o’r cyrchfannau ymwelwyr cynharaf a grëwyd gan ddyn. Fe’i gosodwyd i gludo ymwelwyr i gopa’r mynydd a hwn yw unig reilffordd gog Prydain. Bydd Hafod Eryri, Canolfan Ymwelwyr y Copa, gostiodd £9 miliwn i’w hadeiladu, yn agor yn haf 2008.

Treftadaeth Ddiwydiannol a Hanes y Chwareli
Wedi bod yn nwylo’r un teulu ers dros 140 o flynyddoedd, mae hanes yn ddwfn yng wreiddiau Melin Wlân Trefriw. Man cychwyn y broses gynhyrchu yw’r gwlân crai a gaiff ei gymysgu, ei gardio (cribo), ei nyddu, ei ddyblu, ei liwio, ei ystofi a’i wehyddu ar y safle. O’r fan hon mae’r ffordd dros Bas Llanberis at y Mynydd Gwefru yn gyfres o olygfeydd urddasol. Yma, yng nghrombil mynydd Elidir, mae gorsaf bwer storfa bwmp trydan-dwr fwyaf Ewrop. Yn Llanberis hefyd mae effaith hynod y diwydiant llechi a’i ran annatod yn hanes gogledd Cymru, i’w weld yn glir. Caiff yr hanes cywrain hwn ei ddadorchuddio ymhellach yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol lle ceir arddangosfa o grefftau traddodiadol ochr yn ochr ag enghreifftiau o galedi bywyd y chwareli a’u cymunedau. Yng Ngweithdy Llechi Inigo Jones caiff ymwelwyr wylio crefftwyr yn trin llechi a thorri, ffurfio a llathru darnau o lechi crai i’w troi’n gynnyrch defnyddiol megis wynebau gweithio cegin ac aelwydydd. Enghraifft orchestgar o bensaernïaeth gynnar y 19eg ganrif yw Castell Penrhyn. Fe’i hadeiladwyd ar gyfer y teulu Pennant cefnog gydag elw’r llechi Cymreig a siwgr Jamaica. Fe’ch swynir wrth grwydro ystafelloedd y castell sy’n orlawn o gerfiadau cywrain, gwydr lliw a phapur wal wedi’i wneud â llaw. Cewch hefyd gip olwg ar y gwely llechi sy’n pwyso tunnell, a wnaed yn arbennig ar gyfer y frenhines Fictoria. Yn Chwarel Llechwedd mae rheilffordd fwyaf serth Prydain yn arwain at gyfres o ddeg eitem llun a sain ag ysbryd chwarelwr Fictorianaidd yn adrodd yr hanes. Cewch brofi bywyd mwyngloddiwr copr oes Fictoria yn Sygun Copper Mine ac archwilio’r ogofau lliwgar a’r ceuffyrdd lle mae pibonwy calch (stalactid) a chalchbyst (stalagmid) ardderchog i’w gweld.

 

TYWYSWYR
Cnewyllyn o dywyswyr cymwys yw’r North Wales Tourist Guiding Association sy’n darparu gwasanaeth tywysu proffesiynol yng Ngogledd Cymru. Eu nod yw rhannu eu hangerdd am yr ardal a chyflwyno’r cleient i’w rhinweddau nodedig ac i brofiadau bythgofiadwy. P’un ai diwylliant lleol a threftadaeth, mynydda neu ymweld â threfi neu ddinasoedd hanesyddol sy’n mynd â’ch bryd, trwy eu harbenigedd eang, gall y tywyswyr greu taith fydd yn gweddu i’r dim i chi a’ch grwp. www.northwalestouristguides.com

LLETY
Mae gwasanaeth archebu llety cynhwysfawr ar gael i grwpiau gan North Wales Tourism ar 08705 168767, o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00-16.00. Ceir gwybodaeth am lety, cyfarwyddiadau, parcio bysiau a.y.b. ar wefan Visit Wales, www.traveltradewales.com <http://www.traveltradewales.com>

SIOPA SHOPPING
Llandudno
- tre wyliau glan y môr gydag amrywiaeth eang o siopau, gan gynnwys Parc Llandudno, canolfan siopa newydd sbon.

Bangor - dinas Prifysgol, fywiog gydag amrywiaeth eang o siopau bychain a siopau adnabyddus

Caernarfon - tref gaerog brysur gyda dewis eang o siopau â chastell mawreddog yn teyrnasu drosti busy walled town

Porthmadog - tref borthladd fywiog sy’n llawn o siopau annibynnol ac arbenigol

Dolgellau - tre farchnad fechan yn y cwm wrth droed Cader Idris

GWEITHGAREDDAU YN ERYRI
Cerdded
- troediwch lwybrau’r pererinion cynnar ar hyd arfordir Llyn i brofi golygfeydd bendigedig o’r môr a’r mynydd ollow in the footsteps of the early pilgrims along the Lleyn Coastal Path and enjoy spectacular views of the mountains and coast.

Golff - os mai golff yw eich diddordeb, mae golygfeydd Eryri yn gefnlen urddasol i dros ugain o gyrsiau golff a gyrfeydd, ac mae rhywbeth i bawb waeth beth fo’u gallu. is more your thing, the stunning scenery of Snowdonia forms a backdrwwop to over twenty courses and driving ranges, with all abilities catered for.

Beth bynnag fo’r gweithgaredd i chi, o farchogaeth i ganwio, mae Eryri yn lle delfrydol. Am ganllawiau am ddim a mwy o wybodaeth ar ddarparwyr gweithgareddau, ymwelwch â www.visitsnowdonia.info.

 

Back to the top.