CROESO I ERYRI!

Eryri yw calon Cymru ac mae’n un o’r ardaloedd hynaf a harddaf yn Ewrop.

Mae Eryri (sef man yr eryrod) yn croesawu ymwelwyr i amgylchedd naturiol hynod iawn o ran ei harddwch, a Pharc Cenedlaethol Eryri’n ganolbwynt yr ardal. Bu pobl yn byw, yn gweithio ac yn ffynnu yn yr ardal Geltaidd unigryw hon ers mwy na 5000 o flynyddoedd. Mae’r ardal heddiw yn un a fydd yn rhyfeddod i’r ymwelydd gan ei bod yn llawn cyfleoedd am antur, gweithgaredd a darganfod.

Mae yma amrywiaeth eang o bethau i’w gweld a’u gwneud – felly dewch i weld rhai o brif atyniadau Gogledd Cymru. Dilynwch y dolennau a amlygwyd er mwyn cael gwybodaeth am y gwahanol atyniadau.

GOGLEDD ERYRI

Adeiladodd brenin Lloegr, sef Edward 1 gylch o gestyll i oresgyn Gogledd Cymru yn y 13eg ganrif. Cydnabyddir y ceyrydd mawreddog hyn (Caernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech) bellach, gyda’i gilydd, yn Safle Treftadaeth Byd. Mae cestyll y tywysogion Cymreig yma hefyd - Dolbadarn, Dolwyddelan a Chricieth (a gymerwyd yn ddiweddarach gan Edward 1). Mae’r cestyll hyn i gyd dan ofal Cadw.

Y tu allan i Fangor mae adeilad godidog Castell Penrhyn, sydd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Adeiladwyd y castell rhwng 1827 a 1840 i deulu cyfoethog Pennant gydag elw llechi Cymru ac mae’r castell yn llawn o bethau anhygoel ac mae erwau lawer o barc hyfryd o’i gwmpas.

Ym Mangor medrech ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Bangor er mwyn dysgu mwy am hanes rhyfeddol Gogledd Cymru. Chwiliwch am raglen y ganolfan o arddangosfeydd hanesyddol a chelfyddydol thematig.

Rhwng Bangor a Chaernarfon ar y B4366 mae Parc Coedwig Gelli Gyffwrdd, lle perffaith ar gyfer y teulu cyfan. Mae’r atyniad hwn wedi ennill sawl gwobr. Medrwch lithro i lawr y llithren hiraf yng Nghymru, teithio ar rollercoaster sydd yn cael ei yrru gan bwer pobl, neu eich tynnu eich hunain ymlaen mewn cwch jyngl a mynd ar goll mewn drysfa.

Yng Nghaernarfon mae atyniad teuluol arall sydd wedi ennill gwobrau, sef Yr Hwylfan. Mae llithrennau 25 troedfedd, pyllau peli a sleidiau tiwb yng nghanolfan hwyl dan do fwyaf a gorau Gogledd Cymru.

Os ewch allan o Gaernarfon ar hyd yr A487, byddwch yn cyrraedd Gwaith Llechi Inigo Jones ac mae modd mynd ar daith o amgylch y gwaith i weld y crefftwyr yn torri, caboli ac engrafu’r llechi. Mae siop yno hefyd ac mae nwyddau llechi a chrefftau Celtaidd eraill o safon uchel ar werth yno.

Disgrifiwyd Parc Glynllifon, sydd ar y A499, unwaith fel ‘cyfrinach fwyaf Cymru’ ond os ewch yno medrwch grwydro drwy 70 erw o goed a phlanhigion egsotig ac ymweld â gweithdai crefft a dylunio, oriel a siop.

CANOL ERYRI

Llanberis, y pentref sydd wrth droed yr Wyddfa, yw lleoliad llawer o atyniadau pwysig Gogledd Cymru.

Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn cludo ymwelwyr i ben mynydd uchaf Cymru ar yr unig reilffordd rhac a phiniwn gyhoeddus ym Mhrydain. Mae theatr glyweledol yn cyflwyno taith rithwir i’r copa ac yna yn ystod eich taith i fyny mae sylwebaeth yn y cerbyd sy’n sôn am rai o gyfrinachau Eryri.

Canolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru yw man cychwyn y teithiau tanddaearol i Orsaf Drydan Dinorwig, sydd yng nghrombil Mynydd Elidir, i ddarganfod sut mae dwr yn cael ei ddefnyddio i greu ynni ar gyfer y grid cenedlaethol. Yn y ganolfan mae arddangosfeydd o ddarluniau, siopau a chaffi.

Ychydig ymhellach draw, yng ngweithdai gwreiddiol y chwarel, dan gysgod y mynyddoedd llechi, mae’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol, amgueddfa lle mae peiriannau a chrefftwyr yn gweithio ac yn adrodd stori’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru. Mae yno grefftwyr yn hollti llechi o dro i dro, Tai Chwarelwyr ac olwyn ddwr enfawr.

Dros y ffordd, gyferbyn â’r Amgueddfa Lechi, mae Rheilffordd Llyn Llanberis, lle medrwch deithio ar y trên stêm hanesyddol ar hyd y rheilffordd gul heibio i Gastell Dolbadarn ac yna ar hyd glan Llyn Padarn. Mae’r golygfeydd dros y llyn tua’r Wyddfa’n wych.

Safle coediog 800 erw yw Parc Gwledig Padarn ac yno mae Rheilffordd y Llyn a’r Amgueddfa Lechi, a gellwch ymweld, hefyd, ag Ysbyty’r Chwarel neu gerdded ar hyd nifer o wahanol lwybrau natur a threftadaeth.

O aros ym Mharc Padarn cewch fwynhau’r golygfeydd ysblennydd wrth blymio o ben twr gweithgareddau uchaf y DG. Profwch yr her awyrol, y lein zip a’r wal ddringo yn Ropes and Ladders ac mae’r goedwig fechan yn hafan berffaith rhag y gwynt a’r glaw.

GWLAD A MÔR

Yn teyrnasu dros dref Conwy ac yn gadarnle i olygfeydd gogoneddus o’r môr a’r bryniau mae Castell Conwy. Fe’i hadeiladwyd gan Edward I ac y mae nawr dan ofal Cadw.

Un arall o adeiladau Cadw, sydd hefyd yng Nghonwy, yw Plas Mawr. Mae’r ty trefol Elisabethaidd hwn, a adeiladwyd ar gyfer masnachwr Cymraeg dylanwadol, yn berl pensaernïol.


Mae Gerddi Bodnant wyth milltir o Landudno, ychydig oddi ar yr A470, ac mae yno 80 erw o erddi godidog sydd yn lliwgar a diddorol o’r gwanwyn i’r hydref.

Yr ochr arall i’r afon ar y B5106, rhwng Conwy a Betws y Coed, mae Melin Wlân Trefriw, lle mae’r un teulu wedi bod yn cynhyrchu cwrlidau gwlân Cymreig traddodiadol ers mwy na 140 o flynyddoedd. Ewch i weld y gwehyddu a’r tyrbinau hydro-electrig cyn mynd i’r siop lle mae nwyddau hyfryd ar werth.

“Ymwelwch â’r gwehyddu a’r tyrbinau hydro-electrig. Mae’r cwrlidau a’r brethynnau Cymreig traddodiadol, ynghyd â dillad gwlân pur, ar werth yn y siop. Ymwelwch â’n siop ar-lein "

Ar y daith o Fetws y Coed i Feddgelert ar hyd Dyffryn Gwynant byddwch yn cyrraedd Gwaith Copr Sygun. Yno medrwch fynd i’r twnelau lle’r oedd y gwaith ers talwm, a chewch edmygu’r stalactidau a’r stalagmidau gwych, neu medrwch geisio panio am aur.

Os ydych yn barod am dipyn o hwyl fel teulu, Canolfan Weithgareddau Parc Glasfryn, ger Y Ffor ar yr A499 cyn cyrraedd Pwllheli yw’r lle i fynd. Bydd cyfle i bawb gael hwyl yn go-cartio, neu fynd ar y beiciau cwad, a rhoi tro ar saethyddiaeth a bowlio deg. Mae modd prynu cynnyrch lleol hefyd yn y Siop Fferm sydd yno.

I’r de o’r mynyddoedd mae Eryri’n arwain at arfordir hudolus gyda thraethau llawn tywod, ac ar y clogwyn gerllaw mae Castell Cricieth. Yn Llanystumdwy, ger Cricieth, mae Amgueddfa Lloyd George lle medrwch ddysgu am fywyd a chyfnod David Lloyd George, yr hogyn a fagwyd mewn bwthyn ac a ddaeth yn Brif Weinidog yn ystod y Rhyfel Gyntaf.

Y tu draw i Bwllheli, yn Llanbedrog, mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw, plasty Gothig Fictorianaidd gwych a restrwyd fel un Gradd 11* ac un o orielau celf hynaf Cymru. Medrwch ymweld â’r arddangosfeydd o ddarluniau neu grwydro drwy’r gerddi a mwynhau’r olygfa odidog dros Fae Aberteifi.

Wrth deithio i’r dwyrain o Bwllheli trwy Borthmadog byddwch yn camu’n ôl mewn amser yn Rheilffordd Ucheldir Cymru (Porthmadog), lle medrwch fynd ar un o’r injans a gweld sut mae pethau’n gweithio yn y siediau.

Filltir a hanner o Borthmadog mae pentref rhyfeddol Portmeirion. Breuddwydiai Syr Clough Williams-Ellis am greu pentref delfrydol ac yma fe welwch sut y daeth ei freuddwyd yn wir.

O Bortmeirion ewch am gysgod y bryniau i Flaenau Ffestiniog a Chwarel Llechwedd. Rhy’r ddwy daith danddaearol wefreiddiol flas o’r bywyd oedd yn wynebu Chwarelwyr Oes Fictoria. Ar y brig, yn y Pentre’ Fictorianaidd, cewch gyfnewid eich arian yn yr Hen Fanc ac ymweld â’r Siop Pethau Da i brofi melysion hen ffasiwn.

DE ERYRI

Ar hyd yr arfordir mae porthladd a chyrchfan hyfryd Abermaw, canolfan adeiladu llongau a mordwyo yn y 18fed a’r 19eg ganrif, a gellir dysgu am y dreftadaeth forol yn Sefydliad y Morwyr Ar y Cei yn Abermaw.

Ymhellach draw yn Nhywyn, mae Rheilffordd Talyllyn, lle’r arferid allforio llechi ac sydd erbyn hyn yn cludo teithwyr am 7 milltir i Abergynolwyn. Mae’r rheilffordd gyntaf yn y byd i gael ei diogelu a’i rhedeg gan wirfoddolwyr wedi bod yn rhedeg ers 1865 ac mae’r injans a’r cerbydau gwreiddiol yn dal ar waith.

I’r dwyrain mae Canolfan Grefftau Corris lle mae amrywiaeth o eitemau lleol ar gael yn y gweithdai crefft ac yma mae man cychwyn Labrinth y Brenin Arthur. Gellwch fynd ar daith ar gwch ar hyd afon danddaearol a gwrando ar Chwedlau’r Brenin Arthur, neu chwilio yn yr awyr agored am hen chwedlau yn Ymchwil y Beirdd.

Ychydig filltiroedd o Gorris yn Nolgellau mae Canolfan Dreftadaeth y Crynwyr lle medrwch ddarganfod beth oedd y cysylltiad rhwng Eryri a Phensylfania. Yno ceir hanes anghydffurfwyr crefyddol Gogledd Cymru a ymfudodd i America yn y 18fed ganrif i osgoi tlodi ac erledigaeth.

BWYD A DIOD

Os byddwch wedi magu awydd bwyd wrth deithio o amgylch Eryri, da o beth fyddai i chi aros ger un o gaffis Hufen Iâ Cadwalader. Cewch yno hufen iâ gogoneddus a wnaed yng Ngogledd Cymru o rysáit traddodiadol, a hefyd cewch goffi o safon, ysgytlaeth, smwddis, sundaes a chacennau. Mae’r rhain yng Nghricieth, Porthmadog, Portmeirion, Betws y Coed, Llandudno a Phwllheli.

Os am fwyd cartref creadigol, mae bwydlen Caffi Caban ym Mrynrefail, ger Llanberis, yn cynnig amrywiaeth iachus o gynnyrch organig, a ffrwythau a llysiau o’r ardd gyfagos. Ar nosweithiau Sadwrn (rhaid archebu bwrdd o flaen llaw) cewch deithio’r byd gyda bwffe bendigedig yn y lleoliad hwn sydd heb ei ail.

IAITH A DIWYLLIANT

Mae’r Gymraeg yn un o’r ieithoedd hynaf sy’n dal yn fyw yn Ewrop ac mae oddeutu dau o bob tri yn yr ardal hon yn ei siarad (fel arfer hi yw’r famiaith) yn ogystal â’r Saesneg.

Mae llawer o berfformiadau a digwyddiadau Cymraeg yn yr ardal, gan gynnwys cyngherddau gan rai o gorau meibion gorau’r byd. Bydd croeso cynnes i chi!

DIGWYDDIADAU

Cynhelir llawer iawn o wahanol ddigwyddiadau yng Ngogledd Cymru, o gelf a chrefft, gwyliau, sioeau bwyd, rasys a marathons i sioeau ceir a llawer o weithgareddau ac arddangosfeydd y Nadolig. Mae digon o hwyl trwy gydol y flwyddyn. Mae rhestr lawn o’r digwyddiadau ar gael drwy glicio ar www.visitsnowdonia.info neu ymweld â’r Canolfannau Twristiaeth.

TEITHIO YMA

Ar y Ffordd
O Ogledd Orllewin Lloegr: dilynwch briffordd gyflym yr A55 o’r M56.
O Ganolbarth Lloegr: teithiwch ar hyd ffordd hanesyddol yr A5 o’r M54
O Dde Lloegr: mae’n hawdd cyrraedd Gogledd Cymru ar hyd yr M6, M5 a’r M1
O Dde Cymru: dilynwch yr A487 a A470 a mwynhewch y golygfeydd

Ar y Trên
Y daith gyflymaf yw’r un o Lundain i Gaergybi sydd yn dilyn yr arfordir ar hyd gogledd Cymru gan aros ym Mhrestatyn, Cyffordd Llandudno a Bangor ar y ffordd.
Mae golygfeydd gwych ar y daith o Ganolbarth Lloegr o Amwythig i Fachynlleth ac yna ar hyd yr arfordir gorllewinol ar hyd Lein y Cambrian i Bwllheli.

Ar y Bws
Mae gwasanaeth National Express oddi ar y rhwydwaith Prydeinig i Landudno, Bangor, Caernarfon a Phorthmadog.

Hedfan
Mae’n cymryd llai na dwy awr i deithio o feysydd awyr rhyngwladol Manceinion, Lerpwl a Birmingham. Gellir llogi car yn y tri lle.

Dros y Môr
Mae Stena Line ac Irish Ferries yn rhedeg gwasanaethau cyflym i Gaergybi o Dun Laoghaire a Dulyn.

Ar y Beic
Mae rhannau o’r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol (cyfres o lwybrau beiciau lle nad oes moduron) yn arwain at nifer o Atyniadau Eryri. Ymwelwch â www.nationalcyclenetwork.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

TEITHIO WEDI I CHI GYRRAEDD YMA

Cysylltwch â’r Llinell Deithio i gael mwy o wybodaeth am gludiant cyhoeddus: 0870 6082 608.

Cysylltwch â Bws Gwynedd i gael manylion am y bysiau lleol, gan gynnwys y gwasanaeth Sherpa sydd yn rhedeg o amgylch mynyddoedd Eryri: ffôn. 01286 679535, www.gwynedd.gov.uk/bwsgwynedd

TEITHIAU GRWP I ERYRI - Cliciwch yma

 

Back to the top.